Advanced search Search tips

Adnoddau Cymraeg

 

Eisteddfod yr Urdd

SciCast Ffiseg

Cystadleuaeth tîm neu unigol
Oedran: unrhyw un a fo'n aelod o'r Urdd

Dyddiad cau: Dydd Gwener 16eg o Ebrill 2010

Mae SciCast Ffiseg yn eich herio i ddefnyddio eich dychymyg a’ch creadigrwydd i greu fideo fer sy’n esbonio egwyddor o faes ffiseg mewn modd difyr i bobl nad ydynt yn wyddonwyr.

Ni ddylai’r fideo fod yn fwy na 2 funud 30 eiliad, a dylai esbonio cysyniad o faes ffiseg yn hytrach na’i arddangos yn unig, e.e. yn hytrach na dangos ei bod yn bosibl gwthio sgiwer trwy falŵn llawn awyr heb ei fyrstio, dylech egluro pam y mae hynny’n bosibl.

Mae SciCast Ffiseg yn gystadleuaeth genedlaethol y Deyrnas Unedig a'r Iwerddon ac mae rhaid i unrhyw gais a gyflwynir gydymffurfio â Rheolau SciCast Ffiseg a Rheolau Planet SciCast. Os cyflwynir unrhyw geisiadau sydd hefyd yn cydymffurfio â Rheolau cystadlaethau gwyddonol yr Urdd, mi fydd y ceisiadau hynny yn gymwys i ennill gwobr drwy gystadlaethau gwyddoniaeth Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010.

Os am gael eich hystyried ar gyfer cystadleuaeth SciCast Ffiseg Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010 cynghorwn chi i ddanfon e-bost i gwyddorau@urdd.org ar ôl i chi gyflwyno eich fideo i Planet SciCast er mwyn sicrhau bod eich fideo yn cael ei ystyried ar gyfer cystadleuaeth yr Urdd.

Am enghreifftiau o ffilmiau ewch i http://www.planet-scicast.com/films.cfm

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar y cyd â Planet SciCast a’r Sefydliad Ffiseg.


Mae Ffiseg yn bwnc sy’n gofyn am ddychymyg a chreadigrwydd, a thrwy SciCast Ffiseg mae’r Sefydliad Ffiseg yn eich herio i esbonio egwyddor o faes ffiseg mewn modd difyr i bobl nad ydynt yn wyddonwyr.

SciCast Ffiseg

Mae holl reolau cyffredinol SciCast yn berthnasol, yn enwedig y rheol ynghylch peidio â bod yn ddiflas, ond er mwyn cael cyfle i ennill gwobr SciCast Ffiseg dylech ystyried y pwyntiau canlynol hefyd:

  • Defnyddiwch y 2 funud 30 eiliad sydd gennych i esbonio cysyniad o faes ffiseg yn hytrach na’i arddangos yn unig, e.e. yn hytrach na dangos ei bod yn bosibl gwthio sgiwer trwy falŵn llawn awyr heb ei fyrstio, dylech egluro pam y mae hynny’n bosibl.
  • Cofiwch y bydd y beirniaid yn edrych am greadigrwydd, dychymyg a dyfeisgarwch yn ogystal ag esboniad y gall person nad yw’n wyddonydd ei ddeall yn hawdd. Bydd un o’r beirniaid yn berson nad yw’n wyddonydd, a rhaid iddo gael ei argyhoeddi gan eich esboniad a’i ddeall yn iawn - bydd y beirniaid eraill yn ceisio sicrhau hynny!
  • Cadwch mewn cof y bydd ffilmiau sy’n dangos ffiseg mewn cyd-destun ehangach, e.e. bywyd y tu allan i’r labordy, yn cael eu gwobrwyo.
  • Cofiwch fod yn rhaid i’r ffiseg fod yn gywir! Efallai y bydd yn well i chi ddefnyddio ffiseg syml yr ydych yn ei deall i esbonio ffenomen gyffredin yn hytrach na cheisio esbonio rhywbeth mwy cymhleth fel pam y mae’r bydysawd yn ymestyn.
  • Ystyriwch a oes yn rhaid i chi gynnwys hafaliadau – maent yn gallu diflasu llawer o bobl nad ydynt yn wyddonwyr. Os ydych chi am ddefnyddio hafaliadau syml, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu hesbonio’n ofalus.
  • Mae SciCast Ffiseg (yn wahanol i weddill y gystadleuaeth SciCast) yn agored i geisiadau o Weriniaeth Iwerddon hefyd.

 

Bydd pob un o’r ffilmiau SciCast Ffiseg yn gymwys ar gyfer gwobrau eraill Planed SciCast hefyd, sy’n gwobrwyo technegau ffilmio da yn ogystal â gwyddoniaeth dda.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am SciCast Ffiseg, anfonwch e-bost yn uniongyrchol at scicast.physics@iop.org.

^ To the top ^